Lledaenu gwelliant

Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i ddefnyddio technegau cyfathrebu a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch gwaith gwella a dylanwadu ar gydweithwyr yn eich ysbyty, bwrdd iechyd neu’r byd ehangach i’w fabwysiadu a’i addasu er budd cleifion a staff ymhell ac agos.

Y Cefndir

Y Cefndir

Mae’r pecyn cymorth hwn ar gyfer pobl sydd wedi gwneud gwelliannau ym maes gofal iechyd. Mae’n dysgu technegau cyfathrebu i chi a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch gwaith gwella a dylanwadu ar gydweithwyr yn eich bwrdd iechyd, ar draws GIG Cymru a thu hwnt, i’w fabwysiadu yn eu lleoliad.

Gall rhannu eich dysgu helpu i roi cydnabyddiaeth i’ch tîm a chyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr ledled Cymru, wrth i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ddarparu gofal mwy diogel i gleifion. Gall yr hyfforddiant fod yn rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus a gall gyfrannu at ail-ddilysiad neu ardystiad i chi.

Mae’r pecyn cymorth yn darparu canllaw cam wrth gam drwy egwyddorion sylfaenol cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol ar gyfer lledaenu, y gallwch weithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun. Gallwch chi hefyd glicio’n uniongyrchol ar yr adrannau y credwch fydd fwyaf buddiol i chi.

Dysgwch fwy am sut y bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu

Amcanion

Amcanion

Mae gosod amcanion cyfathrebu cadarn yn gam cyntaf pwysig o gynllunio cyfathrebiadau a all helpu i ledaenu eich gwelliant yn llwyddiannus.

Wrth ddylunio eich amcanion, meddyliwch am ‘CAMPUS’:

  • Cyraeddadwy, Amserol
  • Mesuradwy
  • Penodol
  • Uchelgeisiol
  • Synhwyrol

Mae eich amcanion CAMPUS yn rhoi cyfeiriad, yn eich helpu i ystyried beth y gellir ei gyflawni ac yn cynnig rhywbeth i chi ei fesur fel y gallwch olrhain effaith ac addasu eich dull gweithredu i’ch helpu i gyflawni lledaeniad.

Defnyddiwch ein hadnoddau i osod amcanion priodol, yna parhewch i’w defnyddio fel golau arweiniol wrth gynllunio cyfathrebiadau ar gyfer eich prosiect lledaenu.

Dysgwch am osod amcanion CAMPUS ar gyfer eich gweithgarwch lledaenu

Nodi cynulleidfaoedd

Nodi cynulleidfaoedd

I ddeall gyda phwy y mae angen i chi ymgysylltu a dylanwadu er mwyn gallu lledaenu eich gwelliant, meddyliwch am y bobl a all roi eich gwelliant ar waith, neu ei addasu, yn eu meysydd gwaith.

Mae’n debygol y bydd gennych ychydig o grwpiau cynulleidfa i ymgysylltu â nhw er mwyn i’ch gwelliant ledaenu’n llwyddiannus.

Ar ôl i chi eu nodi, meddyliwch am bwy sy’n dylanwadu ar eu gwaith a sut maen nhw’n ei wneud? Pwy sydd â diddordeb yn y gwelliant? Pa gyfleoedd sydd ar gael i gysylltu â nhw? Pa arweinwyr neu arweinwyr clinigol sydd angen eu cynnwys i wneud i bethau ddigwydd?

Bydd ein hadnoddau ar gyfer nodi eich cynulleidfaoedd yn eich rhoi ar y trywydd iawn i ddod o hyd i’r atebion cywir.

Darganfyddwch sut i nodi a deall eich cynulleidfaoedd

Adrodd straeon

Adrodd straeon

Gall dweud wrth bobl am eich taith wella lwyddiannus trwy adrodd straeon eu denu a’u hysbrydoli.

  1. Sefwch allan trwy fachu’ch cynulleidfa ag ystadegau neu stori gymhellol.
  2. Ymgysylltwch â’ch cynulleidfa a gwnewch iddyn nhw feddwl.
  3. Gwnewch gysylltiad emosiynol ar lefel ddynol.
  4. Byddwch yn gredadwy trwy rannu eich cyflawniadau a’ch heriau gonest.
  5. Ysbrydolwch weithredu gyda galwad glir i weithredu.

Defnyddiwch ein hadnoddau i ddatgloi pŵer adrodd straeon a darganfod sut i gyrraedd a dylanwadu ar eich cynulleidfa gyda’ch stori.

Dod o hyd i ragor o arweiniad ar adrodd hanes eich gwelliant

Gweithredu a Gwerthuso

Gweithredu a Gwerthuso

Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cynllun ar gyfer sut y byddwch yn defnyddio dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu i gyflawni lledaeniad eich gwelliant, mae angen i chi feddwl am sut y byddwch am ei roi ar waith a monitro’r cynnydd.

Mae’n ymwneud â phenderfynu sut a phryd y byddwch chi’n gweithredu popeth rydych chi wedi’i gynllunio i wneud y mwyaf o’ch cyfle i ddylanwadu ar eich cynulleidfa, gwybod sut y byddwch chi’n asesu’r sefyllfa wrth i chi gyrraedd cerrig milltir penodol, a chael yr hyblygrwydd i allu ymateb i unrhyw gyfleoedd neu risgiau y byddwch yn eu nodi ar gyfer eich gweithgarwch lledaenu ar hyd y ffordd.

Bydd ein hadnodd yn eich helpu i ddylunio eich cynllun gweithredu, a sicrhau eich bod yn barod i olrhain sut mae pethau’n mynd.

Darllenwch am gynllunio eich camau gweithredu a'ch gwerthusiad

Ymuno â'r gymuned

Mae Ymgysylltu QI i chi. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill gan gynnwys pecynnau cymorth newydd, templedi, hyfforddiant a rhwydweithio. Ymunwch â’r gymuned a llunio’r hyn sydd ar gael fel ei fod yn gweithio i chi.

Cofrestru â'r gymuned
Oes gennych chi gwestiwn?

Cysylltwch ag aelod o'r tîm

02920 227 744