Wedi’i gynllunio gan dîm cyfathrebu ac ymgysylltu Gwelliant Cymru, y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru, bydd yr adnodd newydd a chynyddol hwn yn dod yn ganolfan gwybodaeth, arweiniad, offer, adnoddau ac enghreifftiau o arferion gorau a fydd yn grymuso pobl i ddefnyddio cyfathrebu, ymgysylltu a dulliau newid ymddygiad i droi eu gwelliant yn llwyddiant.
Ond mae’n fwy na hynny.
Byddwn yn sefydlu cymuned o wellhawyr gan ddefnyddio’r technegau hyn. Gallwch gyflwyno’r cynlluniau yr ydych yn eu llunio i ni trwy ddefnyddio ein pecynnau cymorth am gyngor a chymorth ac ar yr un pryd byddwch yn cyfrannu at greu llyfrgell o arfer gorau. Bydd yr ystod o dempledi a chynlluniau wedi’u llenwi y byddwn yn eu creu gyda’n gilydd yn rhoi ysbrydoliaeth a mannau cychwyn amhrisiadwy ar gyfer eich gweithgarwch gwella yn y dyfodol.
Mae Ymgysylltu QI yn rhan o’r cynnig ehangach o gyngor a chymorth sydd ar gael gan dîm cyfathrebu ac ymgysylltu Gwelliant Cymru. Mae gennym flynyddoedd o brofiad amrywiol o gyfathrebu ym maes ac am welliant a gofal iechyd, ac rydym am ei rannu. Os oes angen cymorth pellach arnoch i ddefnyddio cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer eich prosiect gwella yn GIG Cymru, cysylltwch â ni.
Ymuno â'r gymuned
Mae Ymgysylltu QI i chi. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill gan gynnwys pecynnau cymorth newydd, templedi, hyfforddiant a rhwydweithio. Ymunwch â’r gymuned a llunio’r hyn sydd ar gael fel ei fod yn gweithio i chi.
Cofrestru â'r gymuned