Pecynnau Cymorth

Bydd ein hamrywiaeth o gyngor, arweiniad, offer a thempledi yn eich grymuso i ddefnyddio dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu i godi safon eich gweithgarwch gwella, gan eich rhoi ar y llwybr tuag at lwyddiant.

Lledaenu gwelliant

Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i ddefnyddio technegau cyfathrebu a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch gwaith gwella a dylanwadu ar gydweithwyr yn eich ysbyty, bwrdd iechyd neu’r byd ehangach i’w fabwysiadu a’i addasu er budd cleifion a staff ymhell ac agos.

Gweld pecyn cymorth >

Dylanwadu ar Arweinwyr

Efallai na fydd angen iddyn nhw gymryd rhan weithredol yn eich gweithgarwch gwella bob tro, ond mae eu dylanwad a'u gallu i ddileu rhwystrau o'ch llwybr yn gwneud arweinwyr yn amhrisiadwy. Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i sicrhau eu bod ar eich ochr chi.

Dod yn fuan!

Cynnwys pobl mewn gwelliant

Gall fod yn heriol annog pobl i gefnogi eich gweithgarwch gwella, ond mae hynny'n aml yn rhan annatod o lwyddiant. Bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi'r wybodaeth i chi ar gyfer dal diddordeb eich rhanddeiliaid allweddol a'u cymell i gymryd rhan.

Dod yn fuan!

Ymuno â'r gymuned

Mae Ymgysylltu QI i chi. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill gan gynnwys pecynnau cymorth newydd, templedi, hyfforddiant a rhwydweithio. Ymunwch â’r gymuned a llunio’r hyn sydd ar gael fel ei fod yn gweithio i chi.

Cofrestru â'r gymuned