Croeso i Ymgysylltu QI, canolfan newydd o offer cyfathrebu ymarferol, canllawiau, a chymorth hyfforddi i helpu gwellhawyr i gynnwys pobl yn effeithiol mewn prosiectau gwella ansawdd ar draws GIG Cymru.

Gwneud i Welliant Ddigwydd.

Defnyddiwch yr adnoddau yn y ganolfan hon i ddysgu sut i ddylanwadu ar gydweithwyr, cleifion, a rhanddeiliaid ehangach i feddwl a gwneud yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud eich prosiect gwella yn llwyddiannus. Lledaenwch eich cyflawniad gwella fel y bydd timau’n ei fabwysiadu i wella’r hyn y maent yn ei wneud neu sut maent yn ei wneud.

Pecynnau Cymorth Diweddaraf

Gweld popeth

Lledaenu gwelliant

Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i ddefnyddio technegau cyfathrebu a all eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch gwaith gwella a dylanwadu ar gydweithwyr yn eich ysbyty, bwrdd iechyd neu’r byd ehangach i’w fabwysiadu a’i addasu er budd cleifion a staff ymhell ac agos.

Gweld pecyn cymorth >

Dylanwadu ar Arweinwyr

Efallai na fydd angen iddyn nhw gymryd rhan weithredol yn eich gweithgarwch gwella bob tro, ond mae eu dylanwad a'u gallu i ddileu rhwystrau o'ch llwybr yn gwneud arweinwyr yn amhrisiadwy. Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i sicrhau eu bod ar eich ochr chi.

Dod yn fuan!

Cynnwys pobl mewn gwelliant

Gall fod yn heriol annog pobl i gefnogi eich gweithgarwch gwella, ond mae hynny'n aml yn rhan annatod o lwyddiant. Bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi'r wybodaeth i chi ar gyfer dal diddordeb eich rhanddeiliaid allweddol a'u cymell i gymryd rhan.

Dod yn fuan!

Archwilio

Ynghylch

Dysgwch fwy am sut mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i'ch cefnogi.

Ynghylch

Pecynnau Cymorth

Cewch fynediad at ganllawiau a thempledi a fydd yn eich helpu i ddefnyddio dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu i gefnogi eich gwelliant.

Pecynnau Cymorth

Cymorth

Darganfyddwch y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael y tu hwnt i'r adnoddau yn y ganolfan hon.

Cymorth

Ymuno â'r gymuned

Mae Ymgysylltu QI i chi. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill gan gynnwys pecynnau cymorth newydd, templedi, hyfforddiant a rhwydweithio. Ymunwch â’r gymuned a llunio’r hyn sydd ar gael fel ei fod yn gweithio i chi.

Cofrestru â'r gymuned